Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 11 Ionawr
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4074
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd y 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 a 5 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Atebwyd cwestiynau 1 a 4 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.03
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
Dechreuodd yr eitem am 15.03
Gwnaeth Janet Finch-Saunders ddatganiad ar bwysigrwydd parciau cenedlaethol yng Nghymru.
Gwnaeth Hefin David ddatganiad yn talu teyrnged i’r diweddar Cyril Thomas, cyn ddirprwy brifathro Ysgol y Bechgyn Lewis, Pengam.
Gwnaeth Bethan Jenkins ddatganiad yn talu teyrnged i Rebecca Evans o Shelter Cymru a fu farw yn ddiweddar mewn damwain car ar yr M4 ym Margam.
Dechreuodd yr eitem am 15.08
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6195 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ym mis Tachwedd 2016 ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf.
2. Yn nodi ymhellach ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon i'r ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17, sy'n nodi: “Mae’r sialensiau sy’n wynebu byrddau iechyd wrth iddynt baratoi am y gaeaf yn gymhleth. Maent yn adlewyrchu’r pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol”, ac; “Mae byrddau iechyd yn gweithio mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid, diffyg meddygon a cheisio ei dal hi ymhob man.”
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws o ran sut y mae ei chynlluniau ar gyfer 2016/17, ynghyd â chynlluniau Byrddau Iechyd Cymru, yn perfformio o gymharu â’r sefyllfa bresennol ledled GIG Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
34 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Dileu popeth ar ôl "pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol" ym mhwynt 2 a rhoi yn ei le:
3. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi mwy nag erioed yn y GIG i ateb y galw cynyddol, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf.
4. Yn cofnodi ei gefnogaeth i'r GIG a'r staff gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio'n galed tu hwnt dros y gaeaf i sicrhau triniaeth a gofal o'r radd flaenaf i gleifion.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws ar berfformiad cynlluniau Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 2016/17 yn erbyn y sefyllfa bresennol ar draws GIG Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
1 |
23 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2, ac ailrifo yn unol â hynny:
"Yn nodi bod gwasanaethau gofal cymdeithasol, hefyd, yn gweithredu mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid a cheisio ei dal hi ym mhob man, a bod y gwasanaethau hyn hefyd yn elfen bwysig o barodrwydd ar gyfer y gaeaf."
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
32 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6195 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ym mis Tachwedd 2016 ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf.
2. Yn nodi ymhellach ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon i'r ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17, sy'n nodi: “Mae’r sialensiau sy’n wynebu byrddau iechyd wrth iddynt baratoi am y gaeaf yn gymhleth. Maent yn adlewyrchu’r pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol”.
3. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi mwy nag erioed yn y GIG i ateb y galw cynyddol, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf.
4. Yn cofnodi ei gefnogaeth i'r GIG a'r staff gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio'n galed tu hwnt dros y gaeaf i sicrhau triniaeth a gofal o'r radd flaenaf i gleifion.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws ar berfformiad cynlluniau Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 2016/17 yn erbyn y sefyllfa bresennol ar draws GIG Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
11 |
4 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 15.42
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6196 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi, yng ngoleuni Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Gordewdra, bod lefelau gordewdra yng Nghymru ar gynnydd.
2. Yn mynegi pryder bod cymaint â 59 y cant o oedolion wedi cael eu cofnodi i fod dros eu pwysau neu'n ordew, fel y nodwyd yn yr Arolwg Iechyd Cymru diweddar, a bod 27.3 y cant o blant yng Nghymru yn ordew neu dros eu pwysau, fel y cofnodir yn Rhaglen Mesur Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol Presennol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r diffyg cydlyniant rhwng ei mentrau iechyd cyhoeddus, a thoriadau i gyllid llywodraeth leol, sy'n rhwystro defnydd effeithiol o'r rhaglenni hyn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
34 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi:
a) a hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth Genedlaethol Gordewdra, mai ychydig o newid sydd wedi bod yn nifer yr oedolion sydd dros eu pwysau neu'n ordew yng Nghymru ers 2012 - ond ein bod am weld y niferoedd hynny'n gostwng;
b) bod yr Arolwg Iechyd Cymru diweddaraf yn dangos bod 59% o oedolion yn cael eu cyfrif yn rhai sydd dros eu pwysau neu'n ordew, a bod Adroddiad Blynyddol Presennol Rhaglen Mesur Plant Cymru yn cofnodi bod 26.2% o blant dros eu pwysau neu'n ordew; a
c) bod Llywodraeth Cymru'n parhau i fuddsoddi ar draws pob maes portffolio - gan gynnwys drwy GIG Cymru, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol - i helpu pobl Cymru i fyw bywydau iach.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
24 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6196 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) a hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth Genedlaethol Gordewdra, mai ychydig o newid sydd wedi bod yn nifer yr oedolion sydd dros eu pwysau neu'n ordew yng Nghymru ers 2012 - ond ein bod am weld y niferoedd hynny'n gostwng;
b) bod yr Arolwg Iechyd Cymru diweddaraf yn dangos bod 59% o oedolion yn cael eu cyfrif yn rhai sydd dros eu pwysau neu'n ordew, a bod Adroddiad Blynyddol Presennol Rhaglen Mesur Plant Cymru yn cofnodi bod 26.2% o blant dros eu pwysau neu'n ordew; a
c) bod Llywodraeth Cymru'n parhau i fuddsoddi ar draws pob maes portffolio - gan gynnwys drwy GIG Cymru, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol - i helpu pobl Cymru i fyw bywydau iach.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
12 |
5 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 16.16
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6198 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pa mor bwysig yw sector addysg uwch Cymru o ran cynnig cyfleoedd pwysig i bobl Cymru, a sicrhau manteision economaidd sylweddol i gymunedau ar hyd a lled y wlad.
2. Yn credu bod sector addysg uwch llwyddiannus a bywiog yn hanfodol ar gyfer Cymru ffyniannus.
3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu cynaliadwyedd sector addysg uwch Cymru ar gyfer y dyfodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i:
a) diogelu cyllid a rhaglenni presennol yr UE ar gyfer ymchwil ac addysg uwch neu ddarparu cyllid a rhaglenni yn eu lle;
b) sicrhau bod prifysgolion Cymru yn parhau i gymryd rhan yng nghynllun cyfnewid staff a myfyrwyr Erasmus+, a chefnogi rhagor o gydweithio rhyngwladol a chyfnewid o ran myfyrwyr, ymchwilwyr a staff;
c) sicrhau statws fisa a dinasyddiaeth gwladolion yr UE sy'n gweithio ym mhrifysgolion Cymru;
d) galluogi prifysgolion Cymru i gymryd rhan mewn cynllun fisa i weithio ar ôl astudio; ac
e) dileu myfyrwyr rhyngwladol o dargedau mudo net y DU.
o dargedau symud net y DU.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
16 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.22
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6197 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy i ganfod ffeithiau a gweld drosto'i hun beth yw'r beichiau a'r costau rheoleiddiol a osodir ar Norwy yn sgil aelodaeth lawn o Farchnad Sengl yr UE.
2. Yn nodi bod y beichiau a'r costau hyn yn berthnasol i holl fusnesau Norwy, pa un a ydynt yn allforio i'r UE ai peidio.
3. Yn credu:
a) mai er budd gorau Cymru y caiff deddfau a rheoliadau eu gwneud gan gynrychiolwyr Prydain sydd wedi'u hethol yn ddemocrataidd yn San Steffan a Chaerdydd, yn hytrach na chan swyddogion pell ym Mrwsel, nad ydynt yn atebol i neb; a
b) byddai aelodaeth o'r Farchnad Sengl yn gwahardd rheolaeth effeithiol o ran mewnfudo dinasyddion yr UE i'r DU, ac yn tanseilio canlyniad y refferendwm a difetha dymuniadau'r rhan fwyaf o bleidleiswyr Cymru.
4. Yn nodi, bod yr UE yn allforio £8 biliwn yn fwy mewn nwyddau i'r DU bob mis nag y mae'r DU yn ei allforio i'r UE.
5. Yn cefnogi safbwynt negodi cyffredinol Llywodraeth y DU o geisio am yr uchafswm posibl o ran masnach rydd â'r UE, yn unol â rheolaeth fewnfudo gadarn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
0 |
45 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn croesawu bwriad Prif Weinidog y DU i adeiladu perthynas rymus newydd â'r Undeb Ewropeaidd, sy'n gweithio i'r Deyrnas Unedig ac i Gymru.
2. Yn cydnabod pwysigrwydd masnachu ag Ewrop a gweddill y byd, sy'n hanfodol i ddyfodol economi Cymru.
3. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau perthynas fasnachu gref sy'n rhoi rhyddid i gwmnïau Prydain fasnachu a gweithredu yn y Farchnad Sengl ac y dylai trefniadau cyfatebol gael eu cynnig i fusnesau'r UE sy'n masnachu ac yn gweithredu yn y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
1 |
39 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy.
2. Yn nodi bod Norwy yn aelod o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mynediad llawn a dilyffethair i'r Farchnad Sengl Ewropeaidd, drwy aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a/neu'r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
17 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6197 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy.
2. Yn nodi bod Norwy yn aelod o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mynediad llawn a dilyffethair i'r Farchnad Sengl Ewropeaidd, drwy aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a/neu'r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
11 |
6 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 18.11
Dechreuodd yr eitem am 18.18
NDM6199 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
O'r golwg yng ngolwg pawb: unigrwydd yng nghymunedau Cymru, a beth i'w wneud amdano
Daeth y cyfarfod i ben am 18.44
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 17 Ionawr 2017